GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Cynhyrchion Tybaco a Chynhyrchion Mewnanadlu Nicotin (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 24 Hydref 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na

Gweithdrefn:

-          

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

 Amh

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amh

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 8

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

w/c 12 Tachwedd

Sylwadau

 

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad yn cytuno â chrynodeb ac amcan y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn, fel y'u nodir gan Lywodraeth Cymru yn ei Datganiad Ysgrifenedig dyddiedig 5 Tachwedd 2018.

 

Wrth ystyried pam mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol bod y Rheoliadau hyn wedi'u gwneud gan Lywodraeth y DU, efallai y bydd yr Aelodau am ystyried y rhesymeg a ddarperir ym mharagraff olaf y Datganiad Ysgrifenedig:

"Nid oes gwahaniaeth rhwng ymagwedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi i'w gywiro. O ganlyniad, byddai gwneud OS ar wahân yng Nghymru ac yn Lloegr yn arwain at ddyblygu gwaith a chymhlethdod diangen i'r llyfr statud. Mae cydsynio i OS ar draws y DU yn sicrhau bod un fframwaith deddfwriaethol ar draws y DU sy'n hybu eglurder a hygyrchedd yn ystod y cyfnod hwn o newid. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan yn yr achos hwn."